16/08/2022
RIP John, you'll be sorely missed by everybody at Qualplas!
Teyrnged i Gadeirydd Cwmni Huws Gray, John Llewelyn Jones
Testun tristwch mawr i Grŵp Huws Gray yw cyhoeddi y bu farw Cadeirydd y Cwmni, John Llewelyn Jones, ddydd Sul 14 Awst 2022.
Yn gyd-sylfaenydd cyflenwyr adeiladwyr Huws Gray ym 1990 gyda Terry Owen, parhaodd John yn Gadeirydd y Cwmni am 30 o flynyddoedd, gan hyrwyddo twf economaidd, cyflogaeth leol a threftadaeth Cymru wrth i Grŵp Huws Gray ehangu.
Cyhoeddodd Cyfarwyddwyr Huws Gray ei farwolaeth gyda'r deyrnged ganlynol: "Bydd y rheini a gyfarfu â John yn ymwybodol o'i gymeriad arbennig - roedd yn llawn egni a brwdfrydedd. Doedd dim yn well ganddo na chrwydro ein canghennau a threulio amser gyda chydweithwyr ar yr iardiau ac yn y siopau. Bydd colled fawr ar ei ôl."
"Mae gennym ni i gyd atgofion melys o weithio gyda John dros y blynyddoedd. Roedd ganddo ddigonedd o amser ac anogaeth i bawb ar draws y busnes."
Wedi datblygu o un gangen yng Ngaerwen, Ynys Môn, mae Grŵp Huws Gray wedi ehangu ar raddfa gyflym dros y 30 o flynyddoedd diwethaf. Bellach, Huws Gray yw cyflenwyr adeiladwyr annibynnol mwyaf y DU. Mae'r pencadlys yn parhau i fod yn Llangefni, ac mae'r cwmni yn cyflogi dros 5,000 o weithwyr yn y DU ar ôl iddo gaffael Grafton Merchanting GB yn 2021.
____________________________________________________________________
Tribute to Huws Gray Company Chairman John Llewelyn Jones
Huws Gray Group are saddened to announce the passing of Company Chairman John Llewelyn Jones on Sunday 14th August 2022.
Co-founding Huws Gray builders’ merchants in 1990 with Terry Owen, John continued as Company Chairman for 30 years, championing the economic growth, local employment and heritage of Wales as the Huws Gray Group expanded.
Huws Gray Directors announced the passing with the following tribute: “Those who have met John will know that he was a fantastic character, full of energy and enthusiasm. He liked nothing better than being out and about in the branches spending time with yard and shop colleagues alike. He will be sorely missed by us all.”
"We’ve all got fond memories of working with John over the years. He always had plenty of time and encouragement for everyone throughout the business."
Growing from a single branch in Gaerwen, Anglesey, the Huws Gray Group has rapidly expanded over the past 30 years to become the largest independent builders’ merchant in the UK. The head office remains in Llangefni, employing over 5,000 workers across the UK following their acquisition of Grafton Merchanting GB in 2021.